Prosiect Capel Parc Du
Hen bentref glofaol yw Parc Du , lai na dwy filltir o Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte, mewn ardal wledig y tu allan i'r Waun; yma y ganed cyn Ddirprwy Brif Weinidog Prydain,John Prescott a seren pêl-droed ryngwladol cyntaf Cymru, Billy Meredith. Mae rhyw 80 cartref yn y pentref, fferm laeth, hen Gapel y Methodistiaid, Canolfan Gymunedol, a siop fechan, oll mewn cymuned agos-atoch gydag enw da am ofalu dros bawb sy'n byw yno. Ers i'r lofa gau ym 1949, dirywio'n araf ond yn raddol wnaeth y pentref cyfan, a ddegawdau yn ddiweddarach, gwelwyd angen am adfywio oherwydd bod diffyg canolbwynt i'r gymuned, a llawer o'r trigolion yn teimlo bod eu cymuned wedi ei hanghofio neu ei hesgeuluso, ac na fuasai dim erioed yn newid. Canlyniad anorfod hyn oedd ymdeimlad o iselder.
Fodd bynnag, roedd newid ar y gweill. Mae "Parcwyr", fel y'u hadwaenir yn lleol, yn frîd arbennig. Caeodd y Capel ei ddrysau fel addoldy ym mis Mehefin 2005 a phrynwyd yr adeilad gan rywun oedd yn byw yn lleol a chyda chysylltiad teuluol cryf â'r Capel mewn ocsiwn bidiau dan sêl yn 2009, gan ei arbed rhag dirywio ymhellach neu gael ei ddymchwel, a'i achub er lles y gymuned gyfan. Mae'r Capel, ynghyd â phwyllgor rheoli'r ganolfan gymuned gerllaw, oedd hefyd ar fin cau yn 2010, wedi cychwyn ar raglen radical o adfywio o'r tu mewn, gyda'r gymuned yn ei helpu ei hun, a dechreuodd peth o'r hen ysbryd ddychwelyd. Cryfhawyd hyn ymhellach ym mis Hydref 2010 pan ail-agorwyd yr hen siop fu ar gau ers 15 mlynedd.
Adeilad hanesyddol yw Capel Parc Du, a godwyd gan y glowyr, a thalwyd amdano yn gyfan gwbl gan arian glowyr Glofa'r Parc Du: dyma yw'r ddolen amlwg olaf yn nhreftadaeth ddiwydiannol yr ardal. Unwaith i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd y Capel , gyda'i acwsteg gwych, yn fan cyfarfod gyda chyfleusterau ar gyfer cerddoriaeth, drama, ffilm a dawns, ynghyd â man arddangos parhaol i ddarlunio bywyd a threftadaeth y cylch. Bydd y prosiect hefyd yn llenwi bwlch yn y ddarpariaeth leol a rhanbarthol o ran gweithgareddau celfyddydol i grwpiau bregus, yn benodol, pobl â Chyflwr y Sbectrwm Awtistig.
Rhoddwyd canaiatd cynllunio llawn am newid defnydd y Capel ym mis Chwefror, ac yr oedd angen gwaith trwsio mawr i'w wneud yn ddiogel ac yn addas at y diben. Gwnaeth Ymddiriedolaeth Capel Parc Du Cyfyngedig gais am nifer o grantiau ar gyfer y gwaith angenrheidiol hwn. Mae'r gwaith yn awr yn mynd rhagddo ar yr adeilad, gydag estyniad sylweddol i'r cefn. Medrwch weld y gwaith adeiladu yma.
|