Ffon Hafan ι Gwirfoddolwyr ι Cysylltwch ι Newyddion ι Codi Arian ι Hygyrchedd
English Mewngofnodi Staff
Capel Parc Du Gwasanaethau/Cyfleusterau

Gwasanaethau/Cyfleusterau

Byddwn yn darparu dewis o weithgareddau, fydd yn cynnwys:

  • Celfyddydau Creadigol
  • Celf a Chrefft
  • Cerddoriaeth
  • Chwaraeon 'chwarae rhydd' dychmygus
  • Chwarae strwythuredig (e.e. Pêl-droed, tenis bwrdd)

Mae strwythur a diben bendant i nod Dy Le Di:

  • Annog cyfeillgarwch i ffynnu mewn amgylchedd ddiogel a chefnogol
  • Annog annibyniaeth meddwl a gweithred
  • Cael mwynhad corfforol a bod yn iach
  • Gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned

Ein nod yw rhedeg clwb plant a phobl ifanc i rai gafodd ddiagnosis o Gyflwr Sbectrwm Awtistig, lle'r ymdrinnir â nam cyfathrebu, synhwyraidd a chymdeithasol gan staff sydd yn meddu ar wybodaeth a hyfforddiant helaeth.

Cynhelir sesiynau'r Clwb bob nos Fercher am 50 wythnos y flwyddyn. Rhennir y sesiynau yn ddwy sesiwn ddwyawr, rhwng 5-7pm i rai 8-13 oed a 7-9pm i rai 14-19 oed. Canllaw yn unig yw'r ystod oedran; os teimlwch y bydd eich plentyn yn fwy addas i oedran arbennig, cofiwch fod croeso i chi drafod hyn gyda ni.