Clwg Gweithgareddau Dy Le Di
Mae Dy Le Di yn Glwb Gweithgareddau a Chymdeithasol newydd fydd yn cychwyn ddiwedd mis Tachwedd 2011 i blant ac oedolion ifanc 8 i 19 oed sydd â diagnosis o gyflwr ar y Sbectrwm Awtistig. Mae'r Clwb yn rhan o Prosiect Capel Parc Du ac yn rhedeg ochr yn ochr ag amcanion "Mae Pob Plentyn Anabl yn Cyfrif".
Rydym yn hybu'r feddylfryd a'r weledigaeth y dylai pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo'i anabledd, gael yr un cyfle i brofi a mwynhau bywyd, ac y mae hyn wrth galon ein datganiad cenhadaeth. Rydym yn frwd o blaid hyrwyddo datblygu hyn.
Datganiad Cenhadaeth
Nod Dy Le Di yw rhoi lle diogel a hwyliog i blant a phobl ifanc gyda chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig i ddilyn gweithgareddau ac i gael eu cefnogi. Ymysg yr amcanion mae cyfle iddynt wneud y canlynol:
- Mwynhau a chael hwyl
- Teimlo'n ddiogel
- Ennill a hybu cyfeillgarwch
- Datblygu annibyniaeth
- Bod yn ddiogel a hapus
Medrwch lawrlwytho ein Polisi Amddiffyn Plant yma
|