Ffon Hafan ι Gwirfoddolwyr ι Cysylltwch ι Newyddion ι Codi Arian ι Hygyrchedd
English Mewngofnodi Staff
Capel Parc Du Hanes Adeilad y Capel

Hanes Adeilad y Capel

Codwyd Capel Methodistiaid Cyntefig Parc Du ym 1875, gyda dyfodiad glowyr o Swydd Stafford yn chwilio am waith yng Nglofa Parc Du, ac y mae'n arwydd o gyfnod i drigolion y pentref glofaol oedd yn syml ond yn galed.

Codwyd y Capel a thalu amdano yn gyfan gwbl o bocedi'r glowyr yng Ngolfa Parc Du gerllaw yn gymaint felly fel bod y cerrig sylfaen wedi eu cludo â chert a cheffyl o'r Afon Dyfrdwy.

Deuai rhai o'r glowyr o ardal Mow Cop, oedd yn hysbys fel tarddle Methodistiaeth Gyntefig. Trwy siarad gyda chydweithwyr a theuluoedd y lledaenid y 'Newyddion Da'. Yr oedd y Tŷ Cwrdd cyntaf ym 1858 yng nghartref Mary a Richard Morris - Rhif. 1 y Barics (y tŷ pen). Ym 1861, defnyddiwyd cartref William Parry, bwthyn mwy o faint ger lein reilffordd y lofa. Symudwyd wedyn i Halton isaf, lle defnyddiwyd dau fwthyn drws nesaf at ei gilydd. Cododd Cyfarwyddwr cwmni Glofa'r Parc Du res newydd o dai (Rhes Halton - 'Fifty Row') a rhoi Rhif 19 yn rhodd "I barahau gyda gwasanaethau mewn gwell llety". Buasai adeiladu noddfa barhaol yn golygu y deuai'r arian o gyflogau'r glowyr eu hunain. Mewn ffyrdd a gobaith, dyma nhw yn bwrw ymlaen.

Llwyddwyd i gael safle a ffurfio cynlluniau. Gosodwyd y sylfaen ym 1875, a llwyddwyd i godi'r swm anrhydeddus o £340. Costiodd yr adeilad £1,056.18s.11d yn y pen draw, oedd yn gadael dyled o £570. Wedi agor a chysegru'r capel, y gwasanaeth cyntaf oedd Swper yr Arglwydd am 7:30 y bore. Erbyn diwedd Mawrth 1899 cawsai'r ddyled ei thalu a phenderfynwyd creu estyniad i'r adeilad. Cwblhawyd hynny erbyn Mehefin 29 y flwyddyn honno. Gwnaed hyn trwy gael sgrin rhwng y Capel a'r ysgoldy y gellid ei rhowlio'n ôl, ac yr oedd y pulpud hefyd yn symudol.

Ym 1912, prynwyd rhydd-ddaliad y safle oddi wrth Stadau Castell y Waun am £43.10s.0d. Ym 1921 penderfynodd yr aelodau a'r ymddiriedolwyr fod yn rhaid darparu rhywle i'r bobl ifanc hamddena. Prynwyd tir gerllaw am £150 a phrynwyd cwt milwrol gan Neuadd y Parc am £52.10s.0d. Ffurfiwyd pwyllgor o blith Ymddiriedolwyr yr Ysgol Sul a Chenhadaeth Halton. Cafwyd rhodd o £50 gan y lofa, ac fe'i hagorwyd gan Mr James Darlington (rheolwr-gyfarwyddwr y Lofa). Roedd yno fyrddau biliards a gemau eraill, llyfrgell, cwrt tennis a lawnt fowlio. Ym 1934 gosodwyd goleuadau trydan ar gost o £34. Nid oedd llawer o arian ar gael, ond trefnodd y Chwaeroliaeth Gristnogol de ffydd a chyngerdd i dalu am hyn. Ym 1936 darlledwyd cymanfa ganu o'r Capel. Ym 1948 gwnaed gwaith adnewyddu ar gost o £843. Gwaetha'r modd, caeodd Glofa'r Parc Du ym 1949 a gadawodd llawer yr ardal i chwilio am waith. Ym 1968 wedi diddymu Cylchdaith Rhosymedre a'r Waun, ymunodd wyth o gymdeithasau â Chylchdaith newydd Croesoswallt, Ellesemere a'r Waun. Ymunodd y saith cymdeithas oedd weddill â Chylchdaith Wrecsam (gyda 7 o'r 15 bellach wedi cau). Cafwyd ergyd arall i'r gymuned ym 1972 gyda chwalu 'Fifty Row'. Mae Capel Parc Du wedi goroesi llawer o newidiadau ers Cylchdaith wreiddiol y Methodistiaid Cyntefig, yr Undeb Methodistaidd cyntaf a'r ail i Gylchdaith Rhosymedre a'r Waun, ac yn olaf i Gylchdaith Croesoswallt, Ellesemere a'r Waun. Ym mis Chwefror 1977 darlledwyd y rhaglen 'Sunday half hour' gan y BBC. Medrwch glywed detholiad o'r recordiad trwy glicio yma.

Gyda bygythiad o gau yn eu hwynebu ddwywaith, cytunwyd i gynnal y dystiolaeth Gristnogol yn rhywle yn y pentref. Dangosodd Duw ei ddaioni, a dangoswyd y ffydd gennym ni. Darparodd Duw yr hyn oedd ei angen. Fel y dywedodd John Wesley:

"Y Byd yw fy Mhlwyfh"