Billy Meredith
Un o'r Parc Du oedd Billy Meredith, a adwaenid fel y "Dewin Cymreig", seren bêl-droed ryngwladol cyntaf Cymru, a chwaraeodd i Manchester United a Manchester City. Chwaraeodd bêl-droed a chriced mewn timau lleol, a gweithiodd fel gyrrwr ponis yng Nglofa Parc Du yn 12 oed. Mae'n cael ei gofio hyd heddiw, gan i Wayne Rooney a Ryan Giggs, mewn teyrnged i'w harwr, gynllunio crys y tîm i Manchester United yn 2009 ar sail y crys "V" gwreiddiol a wisgodd Billy Meredith 100 mlynedd ynghynt yn y flwyddyn 1909.
Billy Meredith shirt will earn Manchester United millions
|